Fel Cymro Cymraeg, yn wreiddiol o Borthmadog, mae’n amlwg fod gan Rhion ddealltwriaeth eang o ddiwylliant ac amgylchiadau unigryw ein gwlad.


‘Roedd ei Dad, Herman Jones yn fardd coronog yr Eisteddfod Genedlaethol (1942) ac yn bregethwr hynod tra’n weinidog yn Salem Porthmadog ac, wedyn yn Jerusalem, Porth Tywyn (Burry Port).


Ei daid oedd David Thomas, un o arloeswyr cynnar y mudiad sosialaidd yng Nghymru. ‘Roedd yn Olygydd cylchgrawn dylanwadol Mudiad Addysg y Gweithwyr (WEA) – Lleufer am 40 mlynedd. Ef, hefyd, oedd awdur Y Cynganeddion Cymreig a nifer o lyfrau eraill. Cafodd Rhion ei fagu mewn awyrgylch o farddoniaeth a gwleidyddiaeth. Tra ‘roedd yn y Brifysgol yn Aberystwyth, cafodd fwy o gyfle I ddyfnhau ei Gymreictod.

Lle ganwyd Rhion yn Nhremadog

Wedi cyfnod yng Ngholeg Balliol yn Rhydychen, aeth Rhion I weithio yn y diwydiant moduron, ac yn 1976, death yn ol i Gymru i swydd yn Awdurdod Dwr Cymru yn Aberhonddu. Tra ‘roedd yno, caeth wahoddiad i sefyll dros y Blaid Lafur yn yr Etholiad Cyffredinnol 1979. Er iddo golli i Dafydd Elis Tomos, cafodd Rhion brofiad o wleidyddiaeth dros gyfnod y drafodaeth gyntaf am ddatganoli. Pedair blynedd wedi hyn, daeth cyfle i fynd I Senedd San Steffan mewn sedd gymharol ddiogel, ond bellach roedd y teulu yn hapus ac yn byw ger Bedford a penderfynnodd peidio a dilyn gwleidyddiaeth fel dewis gyrfa!

Wedi 15 mlynedd yn y maes technegol, aeth Rhion ar ben ei hun i gynghori cwmniau a chyrff cyhoeddus. Cychwynodd gwmni newydd I gyhoeddi ac astudio pleidleisiau seneddwyr yn Seneddau Prydain, yr Alban, Gogledd Iwerddon, ac, wrth gwrs, Cymru. Datbylgodd Campaign Information Ltd fel ffynhonell o wybodaeth cynhwysfawr am weithgareddau gwleidyddion o’r Deyrnas Unedig yn llwyr, a thros dro, ehangwyd hyn I gynnwys de Iwerddon a’r Senedd Ewropeaidd. ‘Roedd yna farchnad iach am ddata o’r math ymysg Undebau Llafur, mudiadau cymdeithasol a chwmniau lobio. Yn anffodus, pan ddaeth gwybodaeth-am-ddim ar y wefan, roedd y gystadleuaeth yn broblem a gwerthwyd y cwmni yn 2001; mae’r data gwreiddiol bellach ar system They Work For You


Yn 2003, Rhion oedd brif ysbrydoliaeth Y Sefydliad Ymgynghori a thros y blynyddoedd, sicrhaodd fod y cwmni yn weithgar yng Nghymru. Bu’n gweithio efo Cyngorau Sir Ddimbych, Sir Benfro, Powys, Caerdydd ac eraill. Mae’n honni ei fod y cyntaf i gynnal hyfforddiant ar sut i redeg Grwps Ffocws drwy’r iaith Gymraeg yn Llangefni!


Fel arbennigwr ar dulliau gwahanol o gyfathrebu, mae Rhion yn un o’r gorau sy’n bosib i astudio ymgynghoriadau a mynegi barn amdanynt. Bydd yn barod i anerch Cynghorwyr lleol swyddogion lleol, gweision sifil ac ymgyrchwyr … yn ddwyieithog os fydd angen. Ei neges fydd i bwysleisio pwysigrwydd ymgynghori ac annog pawb i gymryd rhan mewn dadleuon ar faterion cyfoes.


I gysylltu efo Rhion, ffoniwch 07966 446450 neu ebost rhion@rhion.com